Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd Job Trac Cymru Ltd

Asiantaeth recriwtio yw Job Trac Cymru a hysbysfwrdd swyddi Cymraeg yw Safle Swyddi.  Rydym yn arbenigo mewn recriwtio a hysbysebu swyddi Cymraeg.  Rhaid i bob swydd ofyn am y Gymraeg fel sgil sy’n ddymunol neu’n hanfodol a rhaid i bob ymgeisydd siarad Cymraeg.  Rydym yn gwethio ar draws y sector preifat a’r sector gyhoeddus. 

Pa fanylion sydd gennym a sut fyddwn ni’n eu defnyddio?

Os ydych wedi cofrestru ar lyfrau Job Trac Cymru, byddwch yn llenwi ffurflen gofrestru.  Rydym yn defnyddio eich manylion cyswllt o’r ffurflen gofrestru o fewn ein taenlen Excel.  Rydym yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym at un diben yn unig, sef rhoi gwybod i chi am swyddi gwag a/neu newyddion am Job Trac Cymru. Y manylion sydd gennym yw eich enw, teitl eich swydd, eich cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac eich CV. Mae popeth yn cael ei gadw mewn ffeiliau sydd â chyfrinair a dim ond y Cyfarwyddwr sydd â mynediad i’r ffeiliau yma. 

Os ydych yn gwsmer sy’n hysbysebu swydd ar wefan Safle Swyddi, mae’r manylion sydd gennym wedi dod o’r wybodaeth rydych wedi ei roi i ni ac yn rhan o’r gronfa ddata arbennig sy’n creu hysbysebion Safle Swyddi.  Y manylion sydd gennym yw y wybodaeth rydych yn rhoi i ni (ar gyfer y sefydliad rydych yn gweithio iddo) i’w ddefnyddio yn yr hysbysebion sef, eich enw a’r manylion cyswllt, y manylion am sut ddylai’r ymgeisydd gysylltu â chi i ymgeisio am y swydd neu i drafod y swydd, a chyfeiriad post y sefydliad ar gyfer anfonebau.  Dim ond gweithwyr Safle Swyddi sydd â mynediad i’r gronfa ddata ac mae gan y gronfa ddata gyfrinair. 

Mae’r gweithgareddau hyn yn perthyn i gategori “diddordeb busnes cyfreithlon” y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Pwy sy’n gallu cael mynediad at eich manylion?

Mae’r manylion i gyd yn cael eu gadw’n ddiogel ar gyfrifiadur y Perchennog ac ein serfwyr, a dim ond staff Job Trac Cymru a Safle Swyddi sy’n ymwneud â recriwtio neu greu hysbysebion sy’n gallu cael mynediad atynt. Nid yw eich manylion yn cael eu rhannu ag unrhyw sefydliad arall heblaw am y sefyllfeydd isod:

Os ydych yn ymgeisio am swydd drwy asiantaeth Job Trac Cymru byddem yn rhannu eich CV gyda’r cleient ond byddem yn dileu unrhyw fanylion personol cyn gwneud hynny a byddem hefyd yn sicrhau eich caniatâd cyn darparu unrhyw CV neu wybodaeth amdanoch i’r cleient.  Cedwir eich CV a’ch manylion cyswllt am gyfnod o flwyddyn yn unig neu tan y cyfnod rydych yn gofyn I ni eu ddileu.

Os ydych yn llwyddiannus yn sicrhau swydd dros dro trwy asiantaeth Job Trac Cymru byddem yn gofyn i chi am eich manylion banc ar gyfer payroll.  Bydd y manylion hyn yn cael eu rhannu gyda’r cwmni payroll yn unig.  Bydd unrhyw wybodaeth yn gyfrinachol a bydd ffeiliau yn cael eu anfon fel atodiadau gyda chyfrinair.  Caiff popeth am eich manylion banc eu ddileu o systemau Job Trac ar orffen eich cytundeb dros dro.

Os ydych yn gleient i Safle Swyddi neu Job Trac Cymru bydd copïau o anfonebau yn cael eu rhannu gyda cwmni’r cyfrifon.  

 

Eich hawliau

Os ydych wedi cofrestru ar lyfrau Job Trac Cymru bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn tra bydd Job Trac Cymru yn chwilio am swydd i chi ond os ydych yn dymuno cael eich dileu o’n cronfa ddata ar unrhyw adeg, gallwch anfon neges e-bost at post@jobtraccymru.co.uk i roi gwybod i ni. 

Mae gennych yr hawl i:

  • Gael mynediad at unrhyw ddata sydd gennym amdanoch
  • Cywiro unrhyw wallau yn y data sydd gennym amdanoch
  • Cyfyngu ar unrhyw brosesu ar y data sydd gennym amdanoch


Mae hefyd yn bosib gwneud hyn drwy anfon neges e-bost at post@jobtraccymru.co.uk neu drwy ysgrifennu at Job Trac Cymru, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd CF37 5UR
 
Os nad ydych yn cytyno ar ymateb Job Trac Cymru, neu os ydych o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/concerns/handling/ 


Dyddiad: 24.05.2018

More information

More information is available here

Full-time and Part-time Jobs

Looking for a full-time or part-time job that requires Welsh speakers?
Click here to read more

Safle Swyddi on Twitter

Follow us on Twitter to receive job updates as they go live!@ http://twitter.com/safleswyddi