
Athro yn y Diwydiannau Creadigol
R1368

Mae'r Gyfadran Busnes a’r Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru am benodi Athro yn y Diwydiannau Creadigol.
Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar ystod o sgiliau angenrheidiol i ategu a gwella gweithgaredd ysgolheigaidd o fewn y gyfadran, ac i gynorthwyo ei henw da cynyddol yn lleol ac yn rhyngwladol. Bydd disgwyl i’r deiliad swydd wneud ymchwil o safon fyd-eang neu ragorol yn rhyngwladol a chynhyrchu allbynnau o ansawdd uchel sy’n addas i’w cynnwys yn y REF nesaf. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos hanes ymchwil blaenorol rhagorol gan gynnwys hanes cyhoeddi cryf a phrofiad o sicrhau cyllid ymchwil allanol.
Prif ddiben y swydd yw cryfhau ymhellach broffil ymchwil y Grŵp Ymchwil ac Arloesi yn y Diwydiannau Creadigol a gwella ei gyflwyniad i’r REF nesaf. Bydd hefyd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ysbrydoli a mentora eraill wrth iddynt ymchwilio a gweithio tuag at gyhoeddiadau ac allbynnau ymchwil dylanwadol eraill, a bydd hefyd yn goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig o fewn maes ymchwil y diwydiannau creadigol.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â’r Athro Lisa Lewis, (lisa.lewis@decymru.ac.uk)
Sut i wneud cais
-
Ewch at y ddolen isod am swydd ddisgrifiad llawn ac i wneud cais:
-
Gwefan: