
Uwch Reolwr Busnes (Cymru)
BD040B

Arwain, Ysbrydoli ac Ariannu Treftadaeth y DU
Oes gennych chi ddiddordeb mewn Hanes? Archaeoleg? Natur? Treftadaeth?
Beth am fod yn ran allweddol o arwain, ysbrydoli a rhoi adnoddau i Dreftadaeth Cymru?
Os oes gennych ddiddordeb yn y meysydd hyn, mae hwn yn gyfle gwych i weithio ar draws y meysydd hynny a bod yn rhan o siapio dyfodol treftadaeth yng Nghymru.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer Uwch Reolwr Busnes llawn amser ar gontract parhaol i ddarparu cymorth gweithredol i'n Cyfarwyddwr a'n Pwyllgor.
Byddwch hefyd yn arwain rheolaeth gweithdrefnau swyddfa a swyddogaethau gweinyddol ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod prosesau a dyletswyddau yn llifo'n effeithlon. Byddwch yn allweddol i helpu i sicrhau bod treftadaeth yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, am y tro a chenedlaethau'r dyfodol.
Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r cyllidwr mwyaf i dreftadaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae’r prosiectau a ariannwn yn creu newid parhaol a chadarnhaol i bobl a chymunedau a chredwn fod gan dreftadaeth rôl hollbwysig i’w chwarae wrth gyfrannu at gymdeithas fwy cyfartal.
Os ydych chi'n gyffrous am hyn rydym am glywed gennych.
Ein Gwerthoedd
Ein Gwerthoedd a'n Hymddygiadau sydd wrth galon ein gwaith ac maent yn ganolog i'r ffordd rydym yn recriwtio. Mae sut rydych chi'n dangos ein Gwerthoedd yr un mor bwysig i ni â'ch sgiliau a'ch profiad.
- Yn cynnwys pob agwedd ar dreftadaeth, pobl a chymunedau
- Uchelgeisiol dros ein pobl, cymunedau a threftadaeth
- Cydweithredol trwy weithio a dysgu gyda'n gilydd
- Ymddiried yn ein huniondeb, arbenigedd a barn
- Gweithio’n Hyblyg
Mae gennym swyddfeydd ledled y DU ac rydym yn hyrwyddo ymagwedd hyblyg at weithio lle mae hyn yn cefnogi ein hanghenion busnes. Mae llawer o'n rolau'n cynnwys cyfleoedd i weithio gartref neu'n agored ar gyfer trefniadau rhannu swydd.
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Rydym yn gwarantu cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol gofynnol ar gyfer pob swydd wag. Rydym bob amser yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol a gellir trafod a threfnu gofynion arbennig cyn cyfweliad.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn addo darparu amgylchedd gweithio a dysgu cynhwysol i’n pobl sy’n blaenoriaethu tegwch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ogystal ag urddas a pharch i bawb. Byddwn yn creu man gwaith lle na chaiff bygythiadau, gwahaniaethu, aflonyddu, bwlio ac erledigaeth eu goddef a lle cânt eu hatal a'u gwrthwynebu.
Cliciwch yma i ddarllen swydd ddisgrifiad llawn

Sut i wneud cais
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 31 Mawrth 2023
Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal ar 18 Ebrill 2023Cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais:
-
Gwefan: