
Cwnselydd Ysgol
22-24795

Cwnselydd Ysgol – GWASANAETH Addysg
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Darparu Gwasanaeth cwnsela i bobl ifanc o fewn ysgolion uwchradd a chynradd Gwynedd ac Ynys Môn. Ar hyn o bryd mae’r darpariaeth yn rhithiol ac yn cael ei gynnig drwy linc fidio, ffon, sgwrs ac e-bost, mae hyfforddiant ar gael i gefnogi hyn.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Sut i wneud cais
-
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Wendi Jones ar 07815597244.
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan:-
Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymruDYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 30/03/2023.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cliciwch ar y ddolen isod i wneud cais ar lein: -
Gwefan: