Comisiynydd y Gymraeg

Swyddog Polisi

Cyflogwr:
Comisiynydd y Gymraeg
Cyflog:
HEO, £32,460 - £39,690
Lleoliad:
Hyblyg – gweithredir trefniant gweithio hybrid. Yn ogystal â’r dewis i weithio o gartref, lleolir hybiau gwaith yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun.
Dyddiad Cau:
03/04/2023
Termau'r Swydd:
Parhaol
Oriau:
Llawn amser
Disgrifiad:

Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 sefydlodd swydd Comisiynydd y Gymraeg, ac mae’n egluro beth yw rôl y Comisiynydd a’i staff. Mae’r Comisiynydd yn ehangu hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg drwy osod dyletswyddau cyfreithiol ar sefydliadau a gorfodi’r dyletswyddau hynny lle bo angen, mae rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys ymchwilio i gwynion. Ymchwilir hefyd i geisiadau yn ymwneud ag ymyrraeth â’r rhyddid sydd i ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghymru. Mae’r sefydliad yn gwneud gwaith megis ymchwil, cyhoeddi adroddiadau yn ogystal â rhoi cyngor a gwneud argymhellion. Gwneir gwaith dylanwadu ar bolisi lle mae gwneud hynny’n strategol bwysig i’r Gymraeg. Mae’r Comisiynydd hefyd yn hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach gan weithio yn y trydydd sector a’r sector preifat. Yn fwy cyffredinol mae’n gyfrifol am safoni enwau lleoedd ac am hyrwyddo’r cynllun Iaith Gwaith a chynhelir ymgyrchoedd ymysg defnyddwyr y Gymraeg yn rheolaidd i roi gwybod am ein gwaith a’r cyfleoedd sydd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Y swydd

Mae gennym gyfle cyffrous i berson brwdfrydig a chreadigol sy’n dymuno gweithio gyda thîm y Comisiynydd i sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth.

Disgrifiad swydd

Teitl y swydd: Swyddog Polisi

Graddfa: HEO

Yn atebol i: Uwch Swyddog Polisi

PRIF DDYLETSWYDDAU

Craffu ar ddeddfwriaeth a dylanwadu ar bolisi

1. Cyfrannu i waith y Tîm Polisi er mwyn gweithredu amcan Cynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg o sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth. Rhoi sylw neilltuol i'r meysydd sydd fwyaf eu dylanwad ar hyfywedd yr iaith Gymraeg, megis Addysg a Sgiliau; Iechyd; Cymunedau Cymraeg a Darlledu.

2. Cyflwyno sylwadau ar bolisi a deddfwriaeth yn y ffordd fwyaf addas, a chynnig cyngor neu argymhellion a fydd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghymru.

3. Tracio datblygiadau polisi a deddfwriaeth mewn gwahanol feysydd yn barhaus.

4. Cadw trosolwg o effaith pob darn gwaith y mae’r swyddog yn gyfrifol amdanynt, lle ymdrechwyd i ddylanwadu ar gwrs polisi neu ddeddfwriaeth gan ystyried ffyrdd o symud yr agenda ieithyddol yn ei blaen.

5. Darparu tystiolaeth i Bwyllgorau Senedd Cymru a Senedd y DU fel rhan o brosesau datblygu polisi a llunio Biliau a Deddfau, fel sy’n briodol.

6. Bydd gofyn briffio’r Comisiynydd yn ogystal â chynulleidfaoedd allanol a chwilio am gyfleoedd i gydweithio a rhannu gwybodaeth.

Cydweithio a rhannu gwybodaeth

7. Cydweithio a rhannu gwybodaeth â phartneriaid perthnasol i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth a chyfrannu yn adeiladol at drafodaethau yn ymwneud â meysydd sy’n effeithio ar y Gymraeg.

8. Mynychu fforymau perthnasol a threfnu cyfarfodydd gyda gweision sifil er mwyn dylanwadu’n gadarnhaol ar yr ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg.

9. Ar y cyd â thîm cyfathrebu’r Comisiynydd, canfod ffyrdd o rannu gwybodaeth am safbwynt y Comisiynydd ar bolisi a deddfwriaeth a gwaith y Comisiynydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth.

Ymchwilio ac Adrodd

10. Cydweithio â phartneriaid allanol a swyddogion sy’n gyfrifol am gydlynu gwaith ymchwil y Comisiynydd er mwyn sicrhau bod gan y Comisiynydd y sail tystiolaeth angenrheidiol i allu dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth.

11. Cyfrannu at brosiectau ymchwil y Comisiynydd i sicrhau bod gennym y sail tystiolaeth angenrheidiol i allu dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth

12. Datblygu dulliau rhagweithiol a chreadigol o gyfleu barn a safbwynt y Comisiynydd ar wahanol feysydd polisi.

Dyletswyddau Cyffredinol

13. Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.

14. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw.

Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad a manyleb person

Sut i wneud cais