Llywodraeth Cymru

Is-Gadeirydd, Amgueddfa Cymru

Cyflogwr:
Llywodraeth Cymru
Cyflog:
Gwirfoddol, telir treuliau. Darperir hyfforddiant a sesiynau cynefino priodol, a bydd cymorth mentora ar gael i ymgeiswyr llai profiadol.
Lleoliad:
Rhan fwyaf yn ardal Caerdydd, ond bydd gofyn ymweld ag Amgueddfeydd Cenedlaethol eraill a lleoliadau eraill.
Dyddiad Cau:
11/04/2023
Termau'r Swydd:
Tymor Penodol
Oriau:
Rhan amser
Disgrifiad:

Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am unigolyn â chymhelliant uchel sy’n frwdfrydig dros ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru, ac a fydd yn dod â gwell amrywiaeth a chynrychiolaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Ai chi yw’r unigolyn yma?

Bydd gan ein hymgeiswyr delfrydol:

• ymrwymiad at werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, a gwerthfawrogiad o’i rôl a’i diben fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru;
• profiad o weithredu fel uwch arweinydd mewn sefydliad mawr, eang ei gwmpas neu aml-ddisgyblaethol;
• y gallu i ddangos eu hymrwymiad at ffyrdd strategol, sensitif a chydweithredol o weithio;
• ymrwymiad profedig i gynyddu amrywiaeth, a hyrwyddo llesiant, cynhwysiant a chydraddoldeb.

Mae’r rôl hon yn wirfoddol, fodd bynnag, bydd yr holl dreuliau rhesymol yr aed iddynt yn cael eu had-dalu. Darperir hyfforddiant a sesiynau cynefino priodol, a bydd cymorth mentora ar gael i ymgeiswyr llai profiadol.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am swydd yr Is-gadeirydd, cysylltwch drwy anfon e-bost at Nicola Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, Nicola.Guy@llyw.cymru neu Manon Maragakis, Pennaeth Noddi, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, manon.maragakis002@llyw.cymru

~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~

Ymrwymiad: Isafswm o 12 diwrnod y flwyddyn am gyfnod o bedair blynedd yn y swydd.

Gofyniad y Gymraeg: Rhaid i bob ymgeisydd ymrwymo i waith Amgueddfa Cymru mewn Cymru ddwyieithog. Rydym hefyd wrthi’n recriwtio ar gyfer swydd Cadeirydd felly, o ystyried cydbwysedd ieithyddol presennol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r swyddi hyn a bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol i’r swydd arall.

Polisi Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru yw annog ac integreiddio cyfleoedd cyfartal i bob agwedd ar y busnes, gan gynnwys penodiadau cyhoeddus. Croesewir ceisiadau gan bawb ac rydym yn sicrhau na chaiff yr un ymgeisydd cymwys ar gyfer swydd gyhoeddus driniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth.

Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sy'n anabl cyn belled â bod ei gais yn bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd dan sylw. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod rhaid ichi roi tystiolaeth yn eich cais sy’n dangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau a ddiffinnir yn rhai hanfodol.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa. Os hoffech warant o gyfweliad, cysylltwch â’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus trwy e-bostio publicappointments@gov.cymru i roi gwybod iddyn nhw.

 

Sut i wneud cais

  • Dyddiad Cau: 11 Ebrill 17:00. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser yma.

    Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd am gyfweliad yn cael gwybod o leiaf bythefnos cyn dyddiad y cyfweliad.


    Am fwy o wybodaeth am y swydd ac i ymgeisio, ewch i'r ddolen isod :


  • Gwefan: