Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Ymgynghorydd Materion Allanol

Cyflogwr:
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Cyflog:
£35,022
Lleoliad:
Casnewydd
Dyddiad Cau:
26/03/2023
Termau'r Swydd:
Parhaol
Oriau:
Llawn amser
Cyfeirnod Swydd:

IRC135786

Disgrifiad:

Oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i helpu i ledaenu neges Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru? Rydym yn chwilio am unigolyn materion allanol proffesiynol i ymuno â’n tîm bychan ac i chwarae rhan mewn gwneud gwahaniaeth bob dydd.

Byddwch yn gweithio â chydweithwyr ar hyd a lled Cymru er mwyn meithrin cysylltiadau allanol cryf gyda chynrychiolwyr etholedig a rhanddeiliaid allweddol, llunio ein polisi a’n gwaith eirioli, a chynnig cyngor ar faterion allanol a chefnogaeth i’n timau eiddo ac ymgynghori.

Dyddiad Cyfweld Dros Dro: Dydd Mercher 5 Ebrill

Sut beth yw gweithio yma?

Mae Gwasanaeth Ymgynghori'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gartref i arbenigwyr ym mhob maes o'n gwaith. Gwasanaeth ymgynghori cenedlaethol, lle rhennir adnoddau ar draws disgyblaethau a ffiniau, sy'n profi i fod yn gronfa werth chweil o sgiliau, doniau a phrofiadau. Bydd amrywiaeth ac ansawdd yr arbenigedd o fewn y Gwasanaeth Ymgynghori yn galluogi ein heiddo a lleoedd i elwa ar ystod ryfeddol o feddylfryd creadigol ac arloesol, yn ogystal ag arbenigedd dwfn ym mhob mater yn ymwneud â'n diben dwbl o ofalu am dreftadaeth a thirweddau'r genedl, a gwneud y rhain yn hygyrch i bawb.

Fel Ymgynghorydd Materion Allanol, bydd eich cylch gwaith yn cwmpasu Cymru gyfan, ac felly, gallwn fod yn hyblyg o ran lleoliad; byddwch wedi'ch lleoli o'ch hwb swyddfa agosaf, a gallwch weithio gartref; ond hefyd, bydd y rôl yn cynnwys crwydro o un man i'r llall, felly bydd angen ichi fod yn gyfforddus â theithio.

Eich gwaith

Fel rhan o'r tîm Materion Allanol yng Nghymru, byddwch yn allweddol yn llywio sut mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cael ei gweld yng Nghymru a ledled y byd. Byddwch yn meithrin cysylltiad â gwleidyddion, rhanddeiliaid allweddol ac unigolion sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru; monitro a dehongli polisïau, a dylanwadu arnynt; datblygu crynodebau o ansawdd uchel a threfnu a chyflwyno digwyddiadau.

Byddwch yn ymdrin â'ch gwaith mewn modd hynod drefnus a strwythuredig – yn rheoli ac yn cofnodi ein cysylltiadau â gwleidyddion allweddol, rhanddeiliaid ac unigolion sy'n gwneud penderfyniadau, yn ogystal â datblygu prosesau effeithiol er mwyn rhannu gwybodaeth gan yr Ymddiriedolaeth gyda'r byd allanol.

Byddwch yn gyfathrebwr profiadol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac yn hyrwyddwr effeithiol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'n hachos, gan gynrychioli'r Ymddiriedolaeth i gynulleidfaoedd allanol.

Byddwch yn monitro a dehongli polisïau, ac yn dylanwadu arnynt, wrth gynnig cyngor am yr amgylchedd gwleidyddol i gydweithwyr, briffio staff ar y risgiau a chyfleoedd ar gyfer achos, strategaeth a gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyflym, ac at safon uchel. Byddwch yn gweithio'n agos â'n timau Marchnata a Chyfathrebu er mwyn sicrhau neges gyson ar draws sawl sianel.

Byddwch yn gweithio a chydweithwyr i feithrin cysylltiadau hirdymor gydag unigolion allweddol yn y meysydd gwleidyddol, polisi a grwpiau rhanddeiliad, gan ganolbwyntio ar adnabod pwy sy'n ddylanwadol ar gyfer ein hagenda ymysg seneddwyr a chynnig deunyddiau i feithrin eu hymddiriedaeth a hyder ynom ni.

Byddwch yn cyfrannu at brosesau mewnol ac yn datblygu cysylltiad da ledled yr Ymddiriedaeth, gan gynnwys gyda chydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon a Thîm Materion Allanol yr Ymddiriedolaeth Gyfan.

Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil rôl llawn trwy'r ddolen yma.

Am bwy rydym yn chwilio

Rydym yn chwilio am unigolyn materion allanol proffesiynol hynod frwdfrydig gyda dealltwriaeth a phrofiad o’r dirwedd wleidyddol a rhanddeiliaid yng Nghymru. Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Yn eich cais, rhowch fanylion am sut ydych chi’n bodloni’r meini prawf canlynol:

• Profiad o weithio yn y maes eirioli, polisi neu weithio mewn partneriaeth allanol
• Dealltwriaeth am y dirwedd randdeiliaid yng Nghymru.
• Gwybodaeth a phrofiad o dirwedd wleidyddol Cymru
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ynghyd â sgiliau rhyngbersonol gwych
• Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i weithio'n gyflym a blaenoriaethu
• Y gallu i gynnal, dehongli ac ymateb i ymchwil, deallusrwydd a dadansoddiad allanol a mewnol
• Y gallu i feithrin cysylltiadau cydweithredol cryf gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol
• Y gallu i gyfathrebu a gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg

 

Sut i wneud cais