S4C

Pwll Llawrydd Uwch Newyddiadurwr Digidol

Cyflogwr:
S4C
Cyflog:
£29.28 yr awr yn ogystal â thal gwyliau
Lleoliad:
Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Dyddiad Cau:
29/03/2023
Oriau:
Rhan amser
Disgrifiad:

Mae S4C yn darparu gwasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa iau na’r hyn sy’n gwylio Newyddion S4C ar deledu, er mwyn iddyn nhw fedru cael newyddion amrywiol yn y Gymraeg, ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau.

Dyma gyfle i fod yn rhan o wasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i’r dyfodol.


Gyda bys ar byls newyddion Cymreig a’r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o’r newydd a denu dilyniant.


Bydd gennych brofiad golygyddol a dealltwriaeth o’r gyfraith yn ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau, yn ogystal â’r gallu i adeiladu perthnasau positif gyda phobl a sefydliadau er mwyn datblygu a chynnal partneriaethau.


Gyda sgiliau ieithyddol cryf bydd gennych y gallu i sicrhau safon a chywirdeb, a’r ddawn i gynnal tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.


Bydd gennych drwyn am stori a’r gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.


Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.


Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl i lefel uchel yn y Gymraeg a Saesneg gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar, a’r sgiliau i sicrhau cywirdeb ieithyddol y gwasanaeth yn hanfodol i’r rôl yma.


Manylion Eraill


Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Cyflog: £29.28 yr awr yn ogystal â thal gwyliau

Cytundeb: Llawrydd PAYE

Oriau gwaith: Hyblyg

Sut i wneud cais

  • Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mercher 29 Mawrth 2023 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

     

    Nid ydym yn derbyn CV.


    Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

     

    Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

    Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.

    Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.


  • Gwefan: