
Newyddiadurwr Digidol S4C

Mae Newyddion S4C yn wasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg .Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa ehangach na’r rhai sy’n gwylio newyddion ar deledu, a hynny ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau.
Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o wasanaeth fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i’r dyfodol.
Gyda diddordeb brwd mewn newyddion Cymreig a’r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu’ gwasanaeth digidol a denu dilyniant.
Bydd gennych drwyn am stori a’r gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.
Gyda sgiliau ieithyddol da byddwch yn ysgrifennu yn gywir ac yn ystwyth a bydd gennych y ddawn i gynnal tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.
Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon dda gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin. Mae S4C yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Caernarfon.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Eich rôl yw cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. O ganlyniad bydd eich patrwm sifft ar draws 7 diwrnod, ac yn unol â gofynion y gwasanaeth.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Sut i wneud cais
-
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Llun 6 Chwefror 2023 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
-
Gwefan: