
Cynorthwyydd y Cyfryngau Clyweledol ac E-ddysgu

Mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn i ymuno â thîm deinamig Athrofa Padarn Sant.
Mae Athrofa Padarn Sant yn anelu at ragoriaeth ym mhob maes ei darpariaeth, ac yn ymrwymo i roi’r dysgwr gyntaf bob amser.
Mae hon yn rôl newydd gyffrous, i gefnogi’r defnydd cynyddol o dechnoleg, yn benodol adnoddau fideo, ar gyfer ystod o raglenni gan gynnwys rhaglenni achrededig (israddedig ac ôl-raddedig) a dysgu yn y gymuned/eglwys.
Rydym yn chwilio am unigolyn fydd yn dod â chreadigrwydd, dawn a dealltwriaeth o wahanol fathau o gyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys YouTube) yn ogystal ag etheg gweithio cryf. Y disgwyl yw y bydd canran sylweddol o'r swydd yn cynnwys ffilmio a golygu adnoddau fideo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hynod greadigol, yn frwdfrydig ac yn meddu ar brofiad o ffilmio a golygu ar draws sawl llwyfan y cyfryngau.
Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol.
I weld y swydd ddisgriffiad llawn cliciwch yma
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus cwblhau gwiriad sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Sut i wneud cais
-
Mae gofyn i ymgeiswyr ddanfon eu CV fel eu cais i HR@cinw.org.uk
Gofynnwn i ymgeiswyr sydd yn cael ei dewis ar gyfer y rhestr fer ddangos fidio fel engrahifft o’i gwaith a gallu yn y maes.
I drefnu trafodaeth anffurfiol gyda'r Deon ar gyfer Meithrin Disgyblion, y Parchedig Ddr. Mark Griffiths, neu am fanylion pellach am y broses ymgeisio cysylltwch â David Taylor ar David.Taylor@stpadarns.ac.uk
Dyddiad Cau: 06 Chwefror am 10:00 yb
Cyfweliadau: 10 Chwefror 2023 (wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd)
-
Gwefan: