
Cydlynydd Brysbennu

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm bach, ymroddedig a medrus sy’n cynllunio ac yn darparu gwasanaeth newydd i bobl Gogledd Cymru. Rydym yn chwilio am Gydlynydd Brysbennu sy’n siarad Cymraeg ac sydd â’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad i wneud y canlynol:
• darparu gwasanaeth cyfeirio i ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n ceisio cyngor cyfreithiol ar faterion sy’n ymwneud â thai a cham-drin domestig.
• darparu gwasanaeth brysbennu effeithiol ar gyfer cleientiaid Canolfan y Gyfraith
• Creu cysylltiadau cryf a llwybrau atgyfeirio rhwng sefydliadau yn y sector cyfreithiol a’r sector cynghori ledled Gogledd Cymru.
• Cynorthwyo gyda hyfforddi a chefnogi tîm o wirfoddolwyr medrus i helpu i ddarparu gwasanaeth brysbennu effeithiol.
Bydd y Cydlynydd Brysbennu yn rôl allweddol yng Nghanolfan Gyfraith y Gogledd. Deiliad y swydd fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer darpar gleientiaid, gan nodi’r broblem maent yn ceisio ei datrys a materion cyfreithiol cysylltiedig, gwneud y gwaith brysbennu cychwynnol a lle bo’n briodol, trefnu apwyntiadau gyda chyfreithwyr Canolfan Gyfraith y Gogledd a/neu gyfeirio achosion at sefydliadau allanol.
Mae Canolfannau Cyfraith yn llefydd deinamig a chyffrous i weithio ynddyn nhw, ac mae sefydlu Canolfan Gyfraith yn brosiect heriol, cyffrous ac uchelgeisiol. Mae ein tîm cyfreithiol, sydd newydd ei benodi, ynghyd â Chydlynydd Brysbennu penodedig, yn ymuno â Rheolwr y Ganolfan i gynllunio ac i gyflwyno gwasanaeth newydd. Bydd deiliad y swydd yn cynnig cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth arbenigol i'n cleientiaid. Byddant hefyd yn gweithio ar y cyd i ddatblygu partneriaethau gyda sefydliadau lleol yn y sectorau cyfreithiol a chynghori, ymateb i faterion lleol, dylanwadu ar bolisi, a chryfhau gwybodaeth gymunedol am hawliau cyfreithiol.
Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol ac i rymuso pawb. Rydym yn cydnabod gwerth safbwyntiau amrywiol yn ein gwaith ac yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir, cymuned, hunaniaeth a phrofiad, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad personol o'r mathau o faterion y mae Canolfannau Cyfraith yn ceisio mynd i’r afael â nhw. Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch fel rhan o’r broses recriwtio.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda ni ond nad ydych chi’n siŵr am y swyddi sy’n cael eu hysbysebu, eisiau gwirfoddoli, neu drafod y posibilrwydd o weithio gyda ni yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Sut i wneud cais
-
Ewch i’n gwefan ar www.nwlcsting.org.uk/recruitment i lawrlwytho pecyn ymgeisio.
Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi drwy e-bost at recruitment@nwlcsteering.org.uk erbyn 9am ar ddydd Mercher 8 Chwefror 2023 fan bellaf. -
Cyfeiriad y Cwmni:
Heulwen, Glyn y Marl Road, Llandudno Junction, Conwy LL31 9NS
-
e-bost:
-
Gwefan: