Grwp Llywio Canolfan Gyfraith y Gogledd

Uwch Gyfreithiwr Tai

Cyflogwr:
Grwp Llywio Canolfan Gyfraith y Gogledd
Cyflog:
£35-37k y flwyddyn (yn ddibynnol ar brofiad).
Lleoliad:
Cyffordd Llandudno, gyda rhywfaint o waith hybrid a theithio i'r ardal.
Dyddiad Cau:
08/02/2023
Termau'r Swydd:
Parhaol
Oriau:
Llawn amser
Cyfeirnod Swydd:

Uwch Gyfreithiwr Tai

Disgrifiad:

Uwch Gyfreithiwr Tai (mae angen o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso).

Cyffordd Llandudno, Conwy

Disgrifiad

Mae angen cyfreithiwr brwdfrydig a phrofiadol arnom, sy’n siarad Cymraeg, sydd ag ymrwymiad cryf i gyfiawnder cymdeithasol er mwyn arwain y tîm cyfreithiol a’n gwaith achos ym maes tai. Mae hwn yn gyfle prin i ddylanwadu’n sylweddol ar y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaeth newydd cyffrous. Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm bychan, ymroddedig sy’n lansio Canolfan Gyfraith newydd yng Ngogledd Cymru.

Rydym yn chwilio am gyfreithiwr tai brwdfrydig i wneud y canlynol:

• Ein helpu i sefydlu a datblygu ein gwasanaeth i ddiwallu anghenion pobl sy’n byw ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.
• Fel Cyfarwyddwr Cyfreithiol, rhoi cyfarwyddyd i’r holl waith cyfreithiol a wneir gan y sefydliad a goruchwylio’r holl waith hwnnw.
• Cynnal a bod yn gyfrifol am ddarparu cyngor, gwaith achos, cefnogaeth a chynrychiolaeth i gleientiaid o bob rhan o Ogledd Cymru ar faterion tai.
• Gweithio mewn partneriaeth â’n cyfreithiwr teulu i ddarparu cyngor a chynrychiolaeth arbenigol ar dai i bobl sy’n profi cam-drin domestig.
• Nodi cyfleoedd i sicrhau newid cadarnhaol i gymunedau drwy ymgyfreitha strategol.
• Gweithio mewn partneriaeth â lleoliadau cymunedol, asiantaethau cynghori ac asiantaethau eraill i sicrhau bod anghenion pobl leol yn cael eu diwallu a bod gwaith polisi cymdeithasol yn cael ei gydlynu i atal problemau rhag digwydd lle bynnag y bo modd.
• Hysbysu a chymryd rhan yn ein gwaith addysg gyfreithiol gyhoeddus, hyrwyddo Canolfan y Gyfraith a diwylliant sy’n parchu hawliau yng Ngogledd Cymru.
• Mae angen o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso.
• Rhaid gallu bodloni safon goruchwyliwr yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol ar gyfer tai. O leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn cyngor arbenigol ar Gyfraith Tai.

Mae Canolfannau Cyfraith yn llefydd deinamig a chyffrous i weithio ynddyn nhw, ac mae sefydlu Canolfan Gyfraith yn brosiect heriol, cyffrous ac uchelgeisiol. Bydd deiliad y swydd yn cynnig cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth arbenigol i'n cleientiaid. Byddant hefyd yn gweithio ar y cyd i ddatblygu partneriaethau gyda sefydliadau lleol yn y sectorau cyfreithiol a chynghori, ymateb i faterion lleol, dylanwadu ar bolisi, a chryfhau gwybodaeth gymunedol am hawliau cyfreithiol.

Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol ac i rymuso pawb. Rydym yn cydnabod gwerth safbwyntiau amrywiol yn ein gwaith ac yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir, cymuned, hunaniaeth a phrofiad, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad personol o'r mathau o faterion y mae Canolfannau Cyfraith yn ceisio mynd i’r afael â nhw. Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch fel rhan o’r broses recriwtio.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda ni ond nad ydych chi’n siŵr am y swyddi sy’n cael eu hysbysebu, eisiau gwirfoddoli, neu drafod y posibilrwydd o weithio gyda ni yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Sut i wneud cais