Prifysgol Caerdydd

Swyddog Prosiect - Cynllun Mentora Myfyrwyr yn y Gymraeg

Cyflogwr:
Prifysgol Caerdydd
Cyflog:
£28,762 - £33,314 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5)
Lleoliad:
Caerdydd
Dyddiad Cau:
29/01/2023
Termau'r Swydd:
Tymor Penodol
Oriau:
Rhan amser
Cyfeirnod Swydd:

15897BR

Disgrifiad:

Ysgol y Gymraeg

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am Gydlynydd Prosiect i ymuno â’r tîm gwasanaethau proffesiynol er mwyn cydlynu'r Cynllun Mentora Myfyrwyr yn y Gymraeg. Mae'r swydd yn cynnwys trefnu rhaglen fentora ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd (iaith gyntaf ac ail iaith). Bydd y gwaith prosiect yn cynnwys recriwtio, hyfforddi a chefnogi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i gynnal rhaglenni mentora ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd mewn ysgolion ledled Cymru.

Am ragor o fanylion cewch gysylltu â Cadi Thomas.

Mae'r swydd hon yn un rhan amser, 21 awr yr wythnos, am gyfnod o 4 mis.

 

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Disgrifiad Swydd

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

Dyletswyddau Allweddol
- Rhoi arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau prosiect Mentora Myfyrwyr y Gymraeg, gan ddefnyddio barn a chreadigrwydd i awgrymu'r dull gweithredu mwyaf priodol lle bo hynny'n briodol, a sicrhau bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall.
- Ymchwilio a dadansoddi materion penodol i brosiect Mentora Myfyrwyr y Gymraeg, gan wneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau
- Sicrhau bod darpariaeth Mentora Myfyrwyr y Gymraeg yn cael ei chyflawni ar y cyd â rhanddeiliaid allanol (yn arbennig sefydliadau AU Cymru, ysgolion a cholegau), gan newid y ddarpariaeth yn rhagweithiol yn unol â gofynion rhanddeiliaid.
- Cysylltu â myfyrwyr AU Cymru, sefydliadau AU ac athrawon ysgol / coleg i gydlynu rhaglen o fentora’r Gymraeg ledled Cymru
- Casglu data er mwyn deall tueddiadau a phatrymau sylfaenol a chreu adroddiadau fel sy'n briodol
- Sefydlu perthynas weithio â chysylltiadau allweddol, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion / Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen
- Cynllunio a chydlynu pecynnau gwaith y cynlluniau prosiect ar draws y partneriaid rhanbarthol, gan gynnwys asesu anghenion prosiect, paratoi llinellau amser, nodi cerrig milltir allweddol a chynlluniau prosiect, a sicrhau cadw at derfynau amser.
- Gweithio gydag Arweinydd Academaidd y Prosiect a phartneriaid cenedlaethol i sicrhau bod adroddiadau cynnydd ac ariannol yn cael eu cyflwyno o fewn amlinelliadau'r amserlenni yn y cytundebau prosiect
- Gweithio gyda rhanddeiliad i ddatblygu a darparu hyfforddiant mentoriaid (myfyrwyr AU Cymru) yn y prosiect Mentora Myfyrwyr y Gymraeg
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r prosiect

Dyletswyddau Cyffredinol
- Ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus, caffael a mireinio sgiliau ac arbenigedd mewn meysydd newydd neu gysylltiedig, ac ymwneud â gweithgareddau adolygu perfformiad fel sy'n briodol
- Sicrhau bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd yn cael ei chymhwyso wrth gyflawni'r holl ddyletswyddau
- Cadw at bolisïau'r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Sicrhau cydymffurfiad â gofynion cyfreithiol a rheoliadol mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, ariannol a pholisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol fel sy'n briodol.
- Perfformio dyletswyddau eraill yn achlysurol nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy’n gyson â'r rôl

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg

1. Gradd/NVQ 4 neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

2. Tystiolaeth o sgiliau TG a rhifedd ardderchog ynghyd â’r gallu i ddefnyddio rhaglenni MS Office
3. Dealltwriaeth dda o dechnegau rheoli prosiect, ochr yn ochr â phrofiad o reoli a chwblhau prosiectau yn ôl amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt
4. Profiad perthnasol o ymgysylltu â nifer o randdeiliaid a meithrin perthynas weithio gref â hwy
5. Profiad perthnasol o negodi ag ystod o randdeiliaid er mwyn cytuno ar becynnau gwaith a sicrhau bod gweithgareddau prosiect yn cael eu cwblhau
6. Dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r Gymraeg fel pwnc yn y sector uwchradd

Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm

7. Tystiolaeth o'r gallu i ddeall a chyfleu gwybodaeth sydd angen ei hesbonio’n fanwl, ar lafar ac ar bapur, yn Gymraeg ac yn Saesneg
8. Tystiolaeth o'r gallu i ddarparu gwybodaeth reoli, sesiynau briffio ac adroddiadau

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau

9. Tystiolaeth o'r gallu i ddatrys problemau gan ddefnyddio menter a chreadigrwydd; y gallu i adnabod, datblygu a dewis opsiynau yn annibynnol
10. Tystiolaeth o'r gallu i drefnu, blaenoriaethu a chynllunio amser ac adnoddau, gan gynnwys rheoli amser personol, gweithio o fewn terfynau amser a chynllunio gwaith i eraill

Meini Prawf Dymunol

1. Cymhwyster Ôl-raddedig / Proffesiynol
2. Profiad o weithio yn y sector Addysg Uwch
3. Profiad o weithio ym maes y Gymraeg a / neu ieithoedd eraill
4. Profiad o weithio ag ysgolion uwchradd

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Ysgol Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn chwilio am gydlynydd cenedlaethol ar gyfer prosiect Mentora Myfyrwyr y Gymraeg (sydd wedi ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol) sy'n anelu at gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio'r Gymraeg hyd at Safon Uwch (iaith gyntaf ac ail iaith) a thu hwnt. Mae’r prosiect hwn yn rhannu nifer o nodweddion â Phrosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern (https://mflmentoring.co.uk) a bydd yn tynnu ar brofiad ac arbenigedd staff y prosiect llwyddiannus hwnnw. Bydd prosiect Mentora Myfyrwyr y Gymraeg yn dwyn ynghyd bedair prifysgol a nifer o ysgolion ledled Cymru. Bydd deiliad y swydd yn cael cyfle i adeiladu partneriaethau er mwyn cefnogi'r Gymraeg fel pwnc ar draws y sector.

Sut i wneud cais

  • Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 11 Ionawr 2023

    Dyddiad Cau: Dydd Sul, 29 Ionawr 2023

    Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.

     

    Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i'r ddolen isod :


  • Gwefan: