
Swyddog Adnoddau Dynol (Cyfnod Mamolaeth)

Pwrpas S4C yw gwasanaethu’r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu'r platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Yn S4C Mae S4C yn chwilio am Swyddog Adnoddau Dynol ar gyfer cyfnod mamolaeth 12 mis.
Mae’r adran Adnoddau Dynol yn dîm bach sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod gweithgareddau pobl S4C yn cael ei ddarparu mor gefnogol, effeithlon a chywir â phosibl.
Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol sydd a’r gallu i ddarparu gwasanaeth cyffredinol Adnoddau Dynol i S4C. Byddwch yn gyfrifol am, ond heb fod yn gyfyngedig i reoli a chynnal system AD (Ciphr), cytundebau, polisïau, absenoldeb, recriwtio, datblygu a hyfforddiant, gweinyddu'r gyflogres, rheoli data a phob agwedd ar weinyddu sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol a'r Gyflogres.
Mae’r rôl yn atebol i’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Os hoffech mwy o wybodaeth ar hyn plîs cysylltwch ag adnoddau.dynol@s4c.cymru
Cyflog: £24,000 - £29,500 y flwyddyn
Cytundeb: 12 mis – cyfnod mamolaeth
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Sut i wneud cais
-
Ceisiadau
Os am wneud cais, dylid anfon ffurflen cais i adnoddau.dynol@S4C.cymru neu Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ erbyn 17.00 y prynhawn ar ddydd Iau 1 Medi 2022.
Nid ydym yn derbyn CV
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
-
Gwefan: