
Rheolwr Prosiect

Mae S4C yn gweithredu ei rhaglen trawsnewid dros y 5 mlynedd nesaf sydd yn cynnwys nifer o brosiectau strategol bwysig. Mae’r prosiectau hyn yn amrywio o ran graddfa ac uchelgais ond mae un elfen nodweddiadol iddyn nhw i gyd: newid. Ymhlith portffolio cyfredol S4C o brosiectau mae, newid i fod yn gyhoeddwr cynnwys ar draws aml lwyfannau, gweithredu prosiectau data a brand a nifer o brosiectau newid llai sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad a diwylliant sefydliadol.
Mae S4C yn chwilio am Rheolwr Prosiect i arwain y portffolio o brosiectau trwy eu cylchoedd bywyd, gan sicrhau bod prif elfennau’r prosiectau’n cael eu cyflwyno yn unol ag amser, safon a chost briodol. Bydd y Rheolwr Prosiect yn llysgennad dros newid ac hefyd yn sicrhau bod prosiectau sy’n dod i’r amlwg yn cyd-fynd â strategaeth. Byddwch yn gyfrifol am rhaglen trawsnewid ar adroddiad cyson i’r Bwrdd a DCMS.
Byddwch yn cyfrannu syniadau yn rhagweithiol tuag at y ffordd yr ydym yn gweithio ac yn cynorthwyo â gweithredu prosesau/systemau newydd er mwyn gwella S4C. Bydd y Rheolwr Prosiect yn cynorthwyo’r tîm Rheoli â chynlluniau tymor hir gweithgareddau S4C, yn sefydlu partneriaethau creadigol a busnes, yn sicrhau amlygrwydd brand S4C â’r gymuned yn y De Orllewin a gweddill Cymru.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg.
Cyflog: £40,000 - £50,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar profiad.
Cytundeb: 5 mlynedd
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Sut i wneud cais
-
Ceisiadau
Os am wneud cais, dylid anfon ffurflen cais i adnoddau.dynol@S4C.cymru neu Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ erbyn 12.00 ar ddydd Llun 22 Awst 2022.
Nid ydym yn derbyn CV.
Mi fydd cyfweliadau yn cael ei chynnal ar ddydd Iau 1 Medi 2022.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
-
Gwefan: