
Cadeirydd ac Aelodau - Adnodd

Tâl:
Cadeirydd - £114 y dydd, ynghyd a threuliau rhesymol – hyd at 5 diwrnod y mis
Aelod - £92 y dydd, ynghyd a threuliau rhesymol – hyd at 3 diwrnod y mis
Ymgorfforwyd Adnodd, is-gwmni cyfyngedig trwy warant o Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2022, i oruchwylio'r gwaith o ddarparu a chomisiynu adnoddau addysgol a deunyddiau ategol dwyieithog i gefnogi dysgu ac addysgu Cwricwlwm i Gymru a'i gymwysterau. Mae darpariaeth deunyddiau dysgu ac addysgu yn elfen hanfodol er mwyn sicrhau hygrededd y cwricwlwm, ac o ran sicrhau'r ymrwymiad angenrheidiol gan ymarferwyr i'w wireddu. Mae Cwricwlwm i Gymru yn arloesol, yn uchelgeisiol ac yn heriol ac felly mae'n gofyn am ddull hollol wahanol a'r un mor uchelgeisiol o ddatblygu adnoddau a deunyddiau ategol wrth iddo gael ei wreiddio dros y blynyddoedd.
Rydym yn edrych i benodi Cadeirydd a chwech Aelod i Fwrdd y cwmni.
Dyma gyfle cyffrous i roi arweiniad a chyfeiriad i gwmni sydd newydd ei sefydlu, gyda'r dasg o sicrhau darpariaeth o ddeunyddiau addysgu a dysgu addysgol pwrpasol o ansawdd uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg ar yr un pryd.
Bydd y cwmni yn darparu trosolwg strategol i’r broses o gomisiynu adnoddau addysgol. Bydd yn sefydlu proses genedlaethol i adnabod anghenion a chomisiynu yn unol a’r anghenion rheini, gan sicrhau tegwch yn y ddarpariaeth a mynediad i adnoddau Cymraeg a Saesneg. Bydd yn datblygu fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu adnoddau a deunyddiau ategol, gan sicrhau fod yr hyn a gynhyrchir yn cyd fynd gyda 4 diben cwricwlwm i Gymru a’u bod yn cefnogi’r cyd destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Un o brif egwyddorion comisiynu fydd hwyluso’r cyd-awduro ar draws sectorau, rhwng athrawon a chyhoeddwyr er mwyn sicrhau bod talent yn cael ei gydnabod, ei feithrin a’i ddatblygu.
Bydd yn dwyn ynghyd ac yn rhoi mynediad i rwydwaith eang o ddarparwyr ac arbenigwyr o wahanol feysydd, ac fe fydd yn buddsoddi mewn sgiliau a chapasiti yn y sector gyhoeddi adnoddau addysgol yng Nghymru, gan sicrhau dull cyd gysylltiedig.
Ni fydd y Cwmni yn cyhoeddi adnoddau a deunyddiau ategol ei hun.
Sut i wneud cais
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yr 2 Medi 2022.
Am fanylion pellach ac i wneud cais, ewch i'r ddolen isod neu am unrhyw ymholiadau pellach cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
Gellir derbyn fersiwn sain, print bras neu Braille o’r hysbyseb yma drwy ffonio 03000 255454.
-
Gwefan: