
Swyddogion Gweinyddol (Cyfnod Penodol hyd at 2 flynedd)

Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Canolog fel Swyddogion Gweinyddol ar sail cyfnod penodol.
Mae Swyddogion Gweinyddol yn darparu cymorth gweinyddol i sicrhau bod ein swyddogaethau allweddol yn cael eu cyflawni. Bydd Swyddogion Gweinyddol yn hyblyg a gellir eu defnyddio o fewn neu ar draws unrhyw un o’n swyddogaethau cymorth busnes.
Meini prawf yn benodol i’r swydd
Mae’n hanfodol:
• eich bod yn meddu ar fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd da
• eich bod yn hyderus yn defnyddio systemau TG, gan gynnwys Microsoft Office
• eich bod yn drefnus, gyda medrau da o ran rheoli amser, ac yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn graddfeydd amser cytûn
• eich bod yn berson hawdd mynd atoch ac yn gallu ffurfio perthnasoedd gweithio effeithiol
• eich bod yn deall sut i gyflwyno gwasanaeth cwsmeriaid da
• eich bod yn gallu amlygu a datrys problemau yn gyflym, gan ddilyn prosesau sefydledig
• eich bod yn gallu gweithio’n gywir a gyda sylw i fanylder
• eich bod yn gallu gweithio’n annibynnol a defnyddio’ch blaengaredd, gan hefyd gydweithio ag aelodau’r tîm a phobl eraill yn y sefydliad
• eich bod yn gallu canolbwyntio a chyflawni mewn amgylchedd gweithio hybrid.
Mae’n fanteisiol eich bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar).
Ymddygiadau allweddol
• Gweithio gyda’n gilydd
• Rheoli gwasanaeth o ansawdd da
• Cyflawni’n gyflym
Oriau gwaith – Yr oriau gweithio amser llawn yw 37 awr dros wythnos pum niwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio egwylion. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi rhan-amser / llai o oriau, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall.
Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim. Rydym yn treialu cynllun gweithio hybrid ar hyn o bryd.
Sut i wneud cais
-
Mae manylion ar sut i wneud cais ar gael o'r ddolen isod,
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am, ddydd Llun, 27 Mehefin 2022.
-
Gwefan: