
Cynghorydd- Arbenigol, Brand a Dylunio
203143

• Patrwm gwaith: 22.5 awr
Buddion: Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, 28 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 33 diwrnod dros 5 mlynedd, opsiynau gweithio hyblyg, iechyd galwedigaethol gan gynnwys gwasanaethau cwnsela a chynghori a gofal llygaid, talebau gofal plant a chynlluniau aberthu cyflog.
Diben y Rôl
Rheoli brand y sefydliad ac arwain y ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio’n greadigol ac yn ymarferol ym mhob cyfrwng. Meithrin capasiti a gallu mewnol o fewn fframwaith llywodraethu cadarn.
Cymwysterau a Sgiliau
1. Profiad sylweddol fel dylunydd graffig, un ai yn fewnol neu mewn asiantaeth ddylunio.
2. Gallu cydnabyddedig i gynnal prosiectau dylunio o’r dechrau i’r diwedd, i gwrdd â therfynau amser, gan gydweithio ar draws rhanddeiliaid a swyddogaethau.
3. Gwybodaeth weithio arbenigol o feddalwedd ddylunio proffesiynol (e.e. Adobe Photoshop, Illustrator, InDesign).
4. Lefel uchel o brofiad mewn disgyblaethau dylunio creadigol.
5. Gwybodaeth am hygyrchedd digidol.
6. Aelod o gorff proffesiynol perthnasol ac ymrwymiad i’ch datblygiad proffesiynol parhaus eich hun.
7. Mentora cydweithwyr llai profiadol.
Sut i wneud cais
-
Dyddiad cau: 16 Mai 2022
Ewch i’n gwefan i wneud cais:
-
Gwefan: