
Darlithydd mewn Cymraeg i Oedolion
CC/2034

Y Math o Gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Awst 2023 - Rhan Amser (patrymau gwaith amrywiol ar gael)
Mae Coleg Cambria yn chwilio am sawl Darlithydd mewn Cymraeg i Oedolion i ddarparu amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar draws y Gogledd Ddwyrain. Eich cyfrifoldeb fel Darlithydd Cymraeg i Oedolion bydd darparu cyrsiau ar bob lefel ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhithiol ac yn y dosbarth.
Gofynion Hanfodol
Gydag o leiaf cymhwyster lefel 4 neu gyfwerth
Gyda chymhwyster TAR
Rhaid gallu cyfathrebu a chyflwyno dysgu’n rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill, ac yn gallu adnabod cryfderau ac anghenion datblygu’r myfyrwyr a’u gwneud yn ymwybodol ohonynt hefyd.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg. Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’. Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny. Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y
Sut i wneud cais
-
Ewch at ein gwefan trwy'r ddolen isod:
-
Cyfeiriad y Cwmni:
Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy CH5 4BR
-
e-bost:
-
Gwefan: