
Darlithydd Sgiliau Cymraeg
CC/2032

Y Math o Gontract: Cyfnod Penodol - Rhan Amser (18.5 awr yr wythnos) hyd at 31 Awst 2023
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Ddarlithydd Sgiliau Cymraeg i ymuno â’n tîm Cymraeg ar safle Iâl. Fel Darlithydd Sgiliau Cymraeg byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau iaith Gymraeg ar bob lefel yn rhithiol ac yn y dosbarth. Byddwch hefyd yn cynnig hyfforddiant iaith, mentora a chymorth i fyfyrwyr sydd eisiau parhau gyda’u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gofynion Hanfodol
● Gydag o leiaf cymhwyster lefel 4 neu gyfwerth
● Gyda chymhwyster TAR
● Rhaid gallu cyfathrebu a chyflwyno dysgu’n rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg
● Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill, ac yn gallu adnabod cryfderau ac anghenion datblygu’r myfyrwyr a’u gwneud yn ymwybodol ohonynt hefyd.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg. Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’. Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny. Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.
Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.
Sut i wneud cais
-
Ewch at ein gwefan isod:
-
Cyfeiriad y Cwmni:
Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy CH5 4BR
-
e-bost:
-
Gwefan: